Mae dechrau'r flwyddyn yn aml yn amser i fyfyrio a nodi’r hyn rydych yn bwriadu ei wneud, ac yn ddiweddar rwyf wedi bod yn treulio amser yn ystyried y cynnydd a wnaethom yng Nghyfarthfa yn ystod 2025, a'r ffyrdd yr ydym yn gobeithio ategu hyn yn y flwyddyn i ddod.
Roedd Ionawr 2026 hefyd yn garreg filltir bersonol i mi, gan nodi cwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn Sefydliad Cyfarthfa. Am flwyddyn mae hi wedi bod i ymuno!
Yn 2025 fe wnaethom ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Tîm Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa, rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned ehangach i nodi pen-blwydd pwysig Castell Cyfarthfa yn 200 oed gyda pharti trwy gydol y flwyddyn ar ffurf ymgyrch 'Cyfarthfa200'. Yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn, ni allem erioed fod wedi dychmygu faint o sylw y byddai pen-blwydd arbennig Cyfarthfa yn ei ddenu, na faint o bobl fyddai eisiau dathlu gyda ni.
Effaith ac uchafbwyntiau
Rydym wedi bod yn dadansoddi’r rhifau a gallwn ddatgelu bod dros 12,000 o bobl wedi cymryd rhan yn ystod 2025 yn y 200 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd i nodi deucanmlwyddiant Cyfarthfa.
Hoffwn rannu rhai o'm huchafbwyntiau personol:
- Hanner Marathon Merthyr
Rydym wedi cael adborth gan y gymuned bod pobl eisiau gweld mwy o weithgareddau cyhoeddus ar raddfa fawr yn y parc, felly roedd yn wych gweld Hanner Marathon Merthyr yn dod trwy Gyfarthfa am y tro cyntaf. Ar y diwrnod ei hun, roedd yr haul yn disgleirio ac roedd awyrgylch gwych wrth i dorf ymgynnull o flaen y castell i gymeradwyo'r rhedwyr, ochr yn ochr â cherddoriaeth fyw a lluniaeth trwy garedigrwydd Ystafell De Julie. Roedd yn teimlo fel cam cadarnhaol ymlaen wrth ail-ddychmygu defnyddiau Cyfarthfa yn y dyfodol. Ac fe wnaeth y rhedwyr fwynhau'r llwybr hefyd - hyd yn oed os oedd yn golygu bryn ychwanegol.
- Tymor Cynnwys BBC Cymru yn dathlu Merthyr Tudful
Dechreuodd y gwaith o gynllunio ar gyfer y deucanmlwyddiant ymhell cyn 2025; roedd hyn yn cynnwys comisiynu rhaglenni BBC Cymru yn canolbwyntio ar Ferthyr i gyd-fynd â 200fed blwyddyn Cyfarthfa. Roedd ymuno â'r gymuned yn y Clwb Llafur ar gyfer y dangosiad cyntaf o 'From Merthyr, With Love' gan Steven Spiers a Ruth Jones yn foment falch. Gwyliodd 1.7 miliwn o bobl y cynnwys am Ferthyr, gan helpu i rannu straeon cadarnhaol am ein tref, ei hanes cyfoethog a'i chymuned unigryw.
- Gwobr Gelf Cyfosod : Cyfarthfa
Mae Merthyr - a de Cymru - yn llawn talent greadigol, ac roedd y Wobr Gelf Cyfosod : Cyfarthfa yn brawf o hyn. Cyflwynodd 76 o artistiaid Cymreig sy'n dod i'r amlwg ymatebion creadigol i gasgliad yr oriel, gan arwain at arddangosfa amrywiol oedd yn ysgogi’r meddwl. Gyda chynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer sioe unigol gan yr enillydd cyffredinol Daniel Lazenby, rwy'n llawn cyffro i weld sut mae'r gwaith hwn yn datblygu.
- Lansio Cadair Adrodd Straeon Enfawr Cyfarthfa
Ochr yn ochr â'r prosiect i ailddatblygu'r castell rydym wedi bod yn gweithio'n galed i greu gweithgareddau newydd ar draws y parc cyfan. Yn 2025, roedd hyn yn cynnwys cydweithio â Chyfeillion Parc Cyfarthfa a Merthyr's Roots i osod cadair bwrpasol 2.2m o uchder wedi'i gwneud â llaw yn ardal y coetir y tu ôl i'r castell. Lansiwyd y gadair fel rhan o'n digwyddiad 'Llwybr Calan Gaeaf' lle cynhaliwyd sesiynau adrodd straeon brawychus a bydd yn ganolbwynt newydd cyffrous ar gyfer addysg ac ymgysylltu cymunedol (ac yn lle gwych ar gyfer hunlun).
- Ymweliad Ei Fawrhydi Brenin Charles III â Chyfarthfa
Sut allwn ni anghofio'r diwrnod y daeth y Brenin i Gyfarthfa? Ym mis Tachwedd gwelwyd Ymweliad Brenhinol swyddogol gan Ei Fawrhydi Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla ar gyfer dathliad deuol o ben-blwydd y castell yn 200 oed a phen-blwydd Ei Fawrhydi yn 77 oed. Roedd yn wych ymuno â chynrychiolwyr cymunedol yn y derbyniad a rhannu ein huchelgeisiau ar gyfer adeilad y castell yn y dyfodol gyda'i Fawrhydi.
- Sioe Oleuadau a Chynnau’r Goleuadau ar Goeden Nadolig Cyfarthfa
Fe wnaethom orffen 2025 ar nodyn uchel iawn, gan gynnal digwyddiad cymunedol ar y blaengwrt i ddathlu cynnau goleuadau coeden Nadolig enwog Cyfarthfa. Gan ategu llwyddiant y goeden yn 2024 – a derbyn adborth gan y gymuned – roedd y digwyddiad yn cynnwys sioe laser arbennig ar thema Nadoligaidd, perfformiadau stryd a marchnad fwyd, gan nodi diwedd y deucanmlwyddiant a dechrau tymor arbennig 'Nadolig yng Nghastell Cyfarthfa'. Rydym eisoes yn ystyried sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiadau gwych yn 2026 – felly cadwch lygad amdanynt.
Cipolwg o'r flwyddyn yn unig yw hwn - am wybodaeth fanylach am ymgyrch 'Cyfarthfa 200' cliciwch yma
Beth fydd yn digwydd yn 2026?
Wrth weithio ar flwyddyn ymgyrch 'Cyfarthfa200', rhywbeth sydd wedi bod yn hollol glir yw pwysigrwydd partneriaethau cryf wrth gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'n castell a'n parc bendigedig. Rwy'n teimlo'n freintiedig o fod wedi bod yn rhan o gydweithrediadau gyda’r awdurdod lleol, y llywodraeth, y trydydd sector, y diwydiannau creadigol, sefydliadau preswylwyr y parc a'r gymuned ehangach i wireddu 'Cyfarthfa200'. Edrychaf ymlaen at ddatblygu'r partneriaethau hyn wrth i'n gwaith
ehangu o ran posibilrwydd a graddfa. Ac yn 2026 – blwyddyn a fydd yn gweld cyflwyno ein cais rownd un i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – bydd yn bwysicach fyth ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol newydd cynaliadwy i'n castell.