Mewn diweddariad blaenorol, rhannwyd gwybodaeth gennym am y lefelau o fuddsoddiad y bydd eu hangen dros amser i adfer a datblygu Castell a Pharc Cyfarthfa yn llawn i fod yn atyniad ymwelwyr o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol sy’n coffáu treftadaeth gymdeithasol, ddiwydiannol a diwylliannol gyfoethog Merthyr yn briodol. Wrth i’r Sefydliad ymgymryd â gweithgareddau i godi’r arian cyfalaf hanfodol hwn, mae hefyd yn defnyddio ffynonellau buddsoddi eraill i roi rhaglenni gwaith llai ar waith sy’n helpu i osod y sylfaen ar gyfer y gwaith datblygu uchelgeisiol hwn. Mae hyn yn cynnwys gwaith i ymgysylltu â grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol a datblygu ein cysylltiadau â nhw, yn ogystal â chreu cynhyrchion, gwasanaethau a gweithgareddau newydd sy’n ychwanegu gwerth i’r parc yn y tymor byr ac sy’n creu newid cadarnhaol cynyddrannol.

I’r perwyl hwn, rydym yn ffodus ein bod wedi derbyn dros £200,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn 24/25.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn elfen ganolog o agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU. Mae’n darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cymunedau, lleoedd, busnesau, pobl a sgiliau. Yn benodol, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ariannu prosiectau a all gyflawni amcanion gan gynnwys gwella ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, sy’n cyd-fynd yn gryf â’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cyfarthfa. Yn ogystal, mae pob penderfyniad ar sut i ddyrannu’r cyllid yn cael ei wneud ar lefel leol, sy’n golygu y gellir blaenoriaethu ymyriadau o fudd gwirioneddol i’r gymuned leol.
Mae’r cyllid gwerthfawr hwn wedi bod yn hanfodol i waith y Sefydliad wrth hyrwyddo datblygiad Cyfarthfa, ac wedi helpu i osod y sylfaen ar gyfer cynnydd a buddsoddiad yn y dyfodol. Mae wedi ein galluogi i gyflwyno’r gweithgareddau canlynol:
- Cydlynu Llwybr Calan Gaeaf ym Mharc Cyfarthfa, a fwynhawyd gan dros 700 o bobl dros ddau ddiwrnod.
- Cynhyrchu arddangosfa Cyfarthfa: Y Gorffennol, Y Presennol, Y Dyfodol i nodi deucanmlwyddiant Cyfarthfa. Roedd yr arddangosfa i’w gweld yn y castell yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth a denodd bron i 4000 o ymwelwyr i ddysgu mwy am hanes a threftadaeth, cyflwr presennol a dyfodol cyffrous yr adeilad rhestredig Gradd I diddorol hwn. Fel rhan o’r prosiect hwn, aethpwyd ati i weithio gyda Phrifysgol De Cymru i gynnal sgan 3D o’r tu mewn i ochr ysgol yr adeilad. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl archwilio’r rhan hon o’r castell, nad yw’n hygyrch i’r cyhoedd ar hyn o bryd, yn rhithwir. Bu modd prynu sgrin ddigidol ryngweithiol hefyd sy’n parhau i fod yn yr amgueddfa er mwyn i ymwelwyr ddarganfod mwy am y Sefydliad, yr amgueddfa a rhaglen o ddigwyddiadau Cyfarthfa 200.
- Cyflwyno ymgyrch hyrwyddo ‘Cyfarthfa200’. Wedi’i chynllunio i godi ymwybyddiaeth o ben-blwydd arwyddocaol Castell Cyfarthfa yn 200 oed, mae’r ymgyrch hon wedi cynnwys cyhoeddusrwydd ar draws baneri polion lampau, canolfannau trafnidiaeth, bysiau a threnau a mannau cyhoeddus eraill. Mae hyn wedi cyfrannu at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â safle Cyfarthfa, gyda ffigurau rhagarweiniol yn dangos cynnydd o bron i 40% mewn ymweliadau â’r castell rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2025 o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
- Mewn partneriaeth ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa a Merthyr’s Roots, cyflwyno rhaglen addysg i ddosbarthiadau Blwyddyn 4 mewn 17 o ysgolion cynradd ym Merthyr ac ymgysylltu â 120 o fyfyrwyr o Goleg Merthyr Tudful.
- Cyflwyno diwrnod mapio deucanmlwyddiant gydag Amgueddfa ac Oriel Cyfarthfa yr oedd dros 50 o unigolion yn bresennol ar ei gyfer ac a helpodd i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu blwyddyn y deucanmlwyddiant a datblygu partneriaethau newydd.
- Cefnogi’r gwaith o hyrwyddo dros 25 o ddigwyddiadau cymunedol a gynhaliwyd i ddathlu deucanmlwyddiant Cyfarthfa rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, gyda dros 8,000 o bobl yn mynychu’r amgueddfa ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ystod y cyfnod hwn.
- Gweithio gyda Choleg Merthyr, gan weld myfyrwyr yn creu ac yn curadu arddangosfa o waith celf wedi’i hysbrydoli gan hanes Cyfarthfa.
- Cydlynu a chyflwyno 8 cyfarfod Fforwm Parc Cyfarthfa, wedi’u cynllunio i ddod â’r gwahanol randdeiliaid a thenantiaid ar draws y parc ynghyd i gydweithio, cydweithredu a dod o hyd i ddatrysiadau.
- Sefydlu Fforwm Cymunedol Cyfarthfa i greu sianel ar gyfer adborth, trafod a chyd-greu’r weledigaeth hirdymor ar gyfer safle Cyfarthfa a’i gweithredu, ac i fanteisio ar angerdd, ymrwymiad, dealltwriaeth fanwl ac arbenigedd ein rhanddeiliaid cymunedol ehangach.
- Cynnal 4 astudiaeth ddichonoldeb i gefnogi datblygiad Cyfarthfa a llywio’r gwaith o flaenoriaethu ein cynlluniau.
- Cynnig cymorth i a/neu gweitho gyda 13 o sefydliadau nid-er-elw eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Cymdeithas Peirianneg Model Merthyr Tudful a’r Cylch a Merthyr’s Roots, a gweithio mewn partneriaeth â nhw.
- Creu 6 chyfle gwirfoddoli cymunedol.
- Gwella’r profiad o ddefnyddio gwefan ein Sefydliad, datblygu sianeli cyfathrebu newydd a gwella ansawdd a thryloywder y wybodaeth rydym yn ei rhannu â’r cyhoedd am ddyfodol Cyfarthfa.
- Ail-baentio ac atgyweirio’r hysbysfyrddau ym Mharc Cyfarthfa gan sicrhau bod deunyddiau cyfathrebu a hyrwyddo yn fwy gweladwy ar gyfer holl ddigwyddiadau’r parc.
Mae tîm a Bwrdd y Sefydliad yn ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Llywodraeth y DU am y cyllid hwn sy’n cydnabod pwysigrwydd gweithgareddau’r Sefydliad. Mae’r arian hwn nid yn unig wedi ein helpu i fwrw ymlaen â’r cynlluniau ar gyfer datblygu Parc Cyfarthfa ac adfer y castell, ond mae hefyd wedi ein galluogi i ddechrau cael effaith gadarnhaol nawr drwy gefnogi’r gymuned gyda digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd newydd i gymryd rhan.
Mae sefydlu fforymau, fel fforwm y parc a fforwm y gymuned, ymgymryd â gweithgareddau allgymorth a gwella ein gwefan a’n sianeli cyfathrebu hefyd yn golygu y gallwn ni gael mwy o fewnbwn gan y cyhoedd a sefydliadau eraill i lunio dyfodol Cyfarthfa, yn ogystal â rhannu manylion am y cynlluniau wrth iddynt gael eu datblygu.
Rydym yn ffodus ein bod wedi cael rhagor o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin eleni a byddwn yn parhau i ddefnyddio’r arian hwn i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud i hyrwyddo datblygiad Parc a Chastell Cyfarthfa. Bydd hyn yn cynnwys ceisio datblygu partneriaethau newydd â rhanddeiliaid a grwpiau cymunedol sy’n ymroddedig i ddyfodol hirdymor Cyfarthfa. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio â ni, neu os hoffech chi wybod mwy, mae croeso i chi anfon e-bost ataf yn jmahoney@cyfarthfafoundation.wales