Dau Gastell Cymreig ar restr fer 'Oscars y Byd Amgueddfeydd'

May 12 2026

Mae dau gastell yn ne Cymru wedi'u henwebu yn y Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth eleni.

Dowlais Male Choir with C200 letters in front of Cyfarthfa Castle.jpg

Mae Cyfarthfa200, yr ymgyrch i ddathlu pen-blwydd Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn 200 oed, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Ymgyrch Farchnata a Chyfathrebu y Flwyddyn; ac mae'r prosiect adrodd straeon ymgolli Cyfoeth, pŵer a chysylltiadau peryglus yng Nghastell Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Defnydd Gorau o Ddigidol – DU.

Arweiniwyd ymgyrch Cyfarthfa200 gan Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a chynhaliwyd rhaglen arbennig o dros 200 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i dynnu sylw at bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol safle Cyfarthfa yn ystod ei ddeucanmlwyddiant. Cafodd y gweithgareddau eu hategu gan ymgyrch farchnata ac ymgysylltu aml-sianel a chafwyd negeseuon yn dymuno pen-blwydd hapus gan fawrion Merthyr a phobl eiconig Cymru gan gynnwys Julien Macdonald, Steve Spiers, Owen Money a Ruth Jones. O faneri dathlu ar strydoedd Merthyr Tudful i ymgysylltu digidol proffil uchel, llwyddodd yr ymgyrch i gryfhau Cyfarthfa fel cyrchfan ddiwylliannol allweddol ac yn 2025 gwelodd Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa gynnydd o 75% yn nifer yr ymwelwyr o'i gymharu â 2024.

Yng Nghastell Caerffili yr her i Cadw a Jam Creative Studios oedd adrodd straeon cymhleth arglwyddiaethau canoloesol, gwrthryfel, trachwant, anffyddlondeb a dial i gynulleidfa deuluol mewn sawl man.

Mae'r stori'n datblygu ar hyd llwybr yr ymwelydd trwy daflunio delweddau ar bropiau ac ystafelloedd, gan arwain at y Neuadd Fawr lle, yng ngeiriau'r prif gymeriad Eleanor de Clare, y gwnaeth pethau 'chwalu yn go iawn'. Mae ei gŵr Hugh Despenser a'i hewythr y Brenin Edward II yn ffoi rhag y Frenhines Isabella a Roger Mortimer, ac mae'r ddrama yn digwydd ar furiau a thapestrïau’r castell mewn golygfa gyffrous yn cyfleu’r erlid – gyda choreograffi ar daflunyddion i dynnu sylw ymwelwyr drwy'r adeilad a dod â'i gymeriadau yn fyw.

Mae'r Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth yn dathlu'r amgueddfeydd, orielau, ac atyniadau ymwelwyr diwylliannol a threftadaeth gorau yn fyd-eang. Mae'r prosiectau hyn yng Nghymru ar y rhestr fer yn erbyn sefydliadau mawreddog eraill yn y sector treftadaeth gan gynnwys yr Amgueddfa Hanes Natur, Amgueddfeydd Rhyfel Imperial, Canolfan Southbank a'r Oriel Genedlaethol.

Cynhelir y seremoni i ddatgelu'r enillwyr nos Fercher 13 Mai 2026, yn Hilton Park Lane, Llundain. Mae'r rhestr fer eleni, sy'n cynnwys ymgeiswyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn ogystal ag amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol eraill mewn 10 gwlad arall yn amrywio o Malta i Awstralia a Sbaen, wedi'i dewis gan banel annibynnol o naw beirniad, sydd i gyd yn adnabyddus ym myd amgueddfeydd.

Dywedodd Jess Mahoney, Prif Weithredwr Sefydliad Cyfarthfa "Rydym mor falch bod ymgyrch Cyfarthfa200 wedi cyrraedd y rhestr fer, ac mae'n fraint cynrychioli Cymru ymhlith amgueddfeydd mor fawreddog yn y Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth eleni. Mae Cyfarthfa yn amgueddfa fechan gyda stori fawr i'w hadrodd, ac uchelgeisiau hyd yn oed mwy ar gyfer y dyfodol. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos pwysigrwydd y safle, nid yn unig i bobl Merthyr Tudful, ond yn ehangach. Ni fyddai llwyddiant yr ymgyrch yn bosibl heb yr holl sefydliadau ac unigolion a weithiodd gyda ni a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i wneud Cyfarthfa200 yn llwyddiant mor wych. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n holl bartneriaid a chydweithwyr am eu cefnogaeth, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd wrth i ni ategu momentwm y flwyddyn wych hon." Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter "Llongyfarchiadau enfawr i Sefydliad ac Amgueddfa Cyfarthfa arf od ar y rhestr fer fawreddog hon. Mae'r cyflawniad gwych hwn yn adlewyrchu angerdd, ymroddiad a rhagoriaeth pawb sy'n cymryd rhan, ac yn dathlu'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddod â'n treftadaeth yn fyw i gymunedau ledled Cymru."

Dywedodd Libby Warwick, Uwch Gynhyrchydd Jam Creative Studios: "Mae wedi bod yn fraint anhygoel gweithio gyda Cadw i adrodd stori castell mwyaf Cymru a'i thrigolion dros y canrifoedd. Mae adeiladwaith godidog y castell wedi bod yn gefndir priodol i gyfleu'r ddrama. Mae cyfoeth, trachwant, brad a dial i gyd wedi bod â rhan yng ngorffennol yr heneb hanesyddol hon ac rydym wedi cael llawer o hwyl yn rhannu'r straeon hynny mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Mae cyrraedd y rhestr fer ochr yn ochr â chymaint o brosiectau a sefydliadau gwych eraill yn dyst i uchelgais parhaus Cadw i ddiogelu treftadaeth Cymru i ni i gyd."

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×