Gweledigaeth ar gyfer Cyfarthfa: Geraint Talfan Davies yn Touchstone

December 23 2025

Wrth i flwyddyn y deucanmlwyddiant ddod i ben, mae Cadeirydd Sefydliad Cyfarthfa, Geraint Talfan Davies, wedi ysgrifennu cyfraniad ar gyfer Touchstone 2025, gan rannu'r weledigaeth ar gyfer dyfodol Cyfarthfa.

Cyfarthfa Foundation Chair Geraint Talfan Davies.jpg

Yn y darn mae Geraint yn tynnu sylw at hanes a threftadaeth Cyfarthfa, sy’n arwyddocaol yn fyd-eang, a Merthyr yn ehangach, ac yn eirioli dros ddatblygiad parhaus Castell a Pharc Cyfarthfa, er mwyn coffáu dylanwad Merthyr yn briodol, ac i ysgogi ffyniant cymdeithasol a strwythurol newydd ar gyfer y dref.

Mae'n amlinellu sut mae blaenoriaethau strategol y Sefydliad yn cyd-fynd yn agos â Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, gan dynnu sylw at yr effaith drawsnewidiol y bydd y cynlluniau hyn yn ei chael ar Ferthyr Tudful a'r gymuned ehangach.

Wrth i ni symud i 2026 a thu hwnt, mae'r Sefydliad yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i wireddu'r potensial hwn a chyflawni'r weledigaeth uchelgeisiol sydd wedi’i nodi yn 'Cynllun Cyfarthfa' (2020).

Touchstone yw cylchgrawn blynyddol Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) ac mae pob aelod siartredig yng Nghymru yn cael copi, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol a phobl sy'n gwneud penderfyniadau.

Gallwch ddarllen yr erthygl lawn yma

Gallwch lawrlwytho Touchstone 2025 yn ei gyfanrwydd yma

I wybod mwy am Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, ewch i RSAW

Ar gyfer ymholiadau am danysgrifiadau i Touchstone, cysylltwch â Thomas Webb yn Thomas.Webb@riba.org

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×