Bydd pensaer byd-enwog yn arwain tîm o ymgynghorwyr sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol i ddatblygu uwchgynllun i droi ardal dreftadaeth Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn ganolfan dreftadaeth ddiwydiannol o bwys rhyngwladol.

Mae Ian Ritchie Architects (iRAL) wedi cael ei ddewis gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chomisiwn Dylunio Cymru i ddatblygu uwchgynllun ar gyfer canolfan ddehongli fodern sy’n arddangos y dref fel crwsibl i’r chwyldro diwydiannol a chynhyrchydd haearn mwyaf y byd yn y 18fed a’r 19eg ganrif.
Gofynnwyd i’r tîm ddatblygu cynllun 20 mlynedd ar gyfer Castell Cyfarthfa a’i barc 190 erw – cartref y Crawsheys, y meistri haearn enwog o’r 19eg ganrif – ac ardal i’r gorllewin o Afon Taf sy’n cynnwys ffwrneisi hanesyddol.
Disgwylir i ymarferiad yr uwchgynllun gymryd 12 mis a bydd yn cynnwys ymgynghori helaeth â’r gymuned. Mae Ian Ritchie Architects wedi ennill dros 60 o gystadlaethau yn Ewrop a’r DU, ac wedi cael dros 100 o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys dwy wobr ryngwladol am arloesi.
Mae ei bractis wedi cael ei enwebu bedair gwaith ar gyfer Gwobr Stirling, sef gwobr bensaernïaeth fwyaf y DU, a ddwywaith ar gyfer gwobr fawreddog Mies Ewrop. Bu Ian Ritchie yn cydweithio gyda’r pensaer Tsieineaidd-Americanaidd, IM Pei, drwy RFR, ei bractis peirianneg dylunio ym Mharis, ar ddylunio’r pyramid gwydr enwog yn y Louvre.
Ei bractis ef hefyd ddyluniodd y Meindwr 120 metr o uchder yn Nulyn a’r tyrau lifft gwydr enwog yn Amgueddfa Celfyddyd Fodern Reina Sofia ym Madrid.
Mae’r practis hefyd wedi creu uwchgynlluniau ar gyfer datblygu’r Amgueddfa Brydeinig a Phont Humber. Yn ddiweddar, cwblhaodd iRAL y gwaith o drawsnewid theatr opera a neuadd berfformio newydd yr Academi Gerdd Frenhinol, gan ennill dros 20 o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd iRAL yn arwain tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys penseiri tirlunio enwog, Gustafon Porter + Bowman (GP+B), a enillodd y gwaith o ailddylunio’r ardal o amgylch Tŵr Eiffel yn ddiweddar.
GP+B hefyd ddyluniodd Diana, Ffynnon Goffa Tywysoges Cymru yn Llundain.
Mae’r tîm hefyd yn cynnwys arbenigedd peirianyddol ac ecolegol gan Arup Consulting, ac arbenigedd ar dreftadaeth ddiwylliannol a chynllunio busnes gan Fourth Street, sef practis sydd wedi rhoi cyngor ar ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal â’r Cavern Quarter yn Lerpwl.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet Merthyr Tudful dros Adfywio a Gwarchod y Cyhoedd: “Roeddem yn rhyfeddu at ehangder y sgiliau uchel yn y tîm hwn sy’n enwog yn rhyngwladol – nid yn unig y penseiri arweiniol, ond hefyd y penseiri tirluniol, y tîm ymgysylltu â’r cyhoedd a’r tîm cynllunio busnes.
“Mae pob partner yn y strwythur tîm cydweithredol yn meddu ar enw da ac ansawdd rhyngwladol, ac rydyn ni’n ffyddiog y byddan nhw’n meddwl am gynllun a fydd yn galluogi Cyfarthfa a Merthyr Tudful i ennill y gydnabyddiaeth ryngwladol y mae hanes y dref yn ei haeddu.”
Dywedodd Ian Ritchie: “Mae holl dîm y prosiect yn falch iawn o gael eu dewis i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ei randdeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach i ddatblygu Cynllun Cyfarthfa.
“Rhaid i'r gwaith o ail-ddychmygu treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful fod yn un sy’n edrych y tu hwnt i’r ôl-ddiwydiannol ac i gyfeiriad y dyfodol,” ychwanegodd. “Mae’n rhaid iddo ddarparu dyfodol creadigol sy’n seiliedig ar arweinyddiaeth amgylcheddol, datblygiad addysgol dyfeisgar, gwerth cymdeithasol gwirioneddol, creu cyfoeth cymunedol ar lefel leol, a buddsoddiad economaidd mawr gyda rhagolygon cenedlaethol a rhyngwladol.”
Dywedodd Mr Ritchie fod tîm Cynllun Cyfarthfa yn edrych ymlaen at ‘adeiladu ar deimlad cadarnhaol ‘charrette’ y Crwsibl ac at gydweithio â phobl Merthyr Tudful i ddatgelu straeon cyffrous, y diwylliant lleol sy’n waelodol a’i hanes peirianyddol cryf, ac i fanteisio i’r eithaf ar ei dopograffeg unigryw drwy osgoi meddwl yn gonfensiynol.
“Yn seiliedig ar uchelgais y prosiect hwn a’r hyn y bydd yn ei olygu i ddyfodol Merthyr Tudful, mae’r tîm yn edrych ymlaen at gyfrannu a chefnogi’r uchelgais hon dros y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Carole Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Dyma gam pellach tuag at wireddu’r uchelgais i wneud i’r argraff gyfoes o Ferthyr Tudful gyd-fynd a’i phwysigrwydd hanesyddol.
Mae ansawdd y tîm yn addo canlyniad cyffrous iawn a fydd o fudd i’r dref a’r rhanbarth, yn ogystal ag i Gymru gyfan.”
Yn 2017, roedd y Cyngor wedi cynnal ‘charrette’, sef ‘ymarferiad dylunio’ a oedd yn dod â phenseiri, cynllunwyr, arbenigwyr amgueddfeydd a threftadaeth, artistiaid a grwpiau cymunedol at ei gilydd i edrych ar botensial Cyfarthfa.
Arweiniodd hyn at adroddiad Y Crwsibl a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, yn galw am fuddsoddi £50m o leiaf dros y degawd nesaf i ddatblygu’r ganolfan ddehongli.
Ers hynny, mae’r Cyngor wedi sefydlu gweithgor, ac un o’i nodau yw creu sefydliad elusennol i fwrw ymlaen â’r cynlluniau ac ymgysylltu â darpar gyllidwyr, sef ymddiriedolaethau a sefydliadau mawr yn y DU ac yn rhyngwladol.
Sicrhawyd cyfanswm o £1.3m eisoes drwy raglen gyfalaf y Cyngor rhwng 2018/19 a 2021/22, i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer unrhyw geisiadau.
Mae tîm llawn Cynllun Cyfarthfa yn cynnwys: Ian Ritchie Architects; penseiri tirluniol Gustafson Porter + Bowman; ymgynghorwyr cyrchfannau arbenigol Fourth Street, ymgynghorwyr costau Equals Consulting, ymgynghorwyr peirianneg, trafnidiaeth ac ecoleg Arup; arbenigwyr prosiectau treftadaeth Julia Holberry; a’r chwedleuwyr proffesiynol TheWholeStory.