Stori'r Cawr - Llwybr Stori Hudolus y Mabinogion yng Nghyfarthfa

February 9 2026

Dilynwch y cliwiau. Dewch o hyd i Gadair y Cawr. Gwrandewch ar y chwedl yn dod yn fyw.

St David's Day 2026  (1600 x 1069 px) (1).jpg

Dydd Iau 19 Chwefror 2026 - Parc Cyfarthfa, 10:00yb - 3:00yp

Ymunwch â ni dros hanner tymor ar antur rhad ac am ddim i'r teulu drwy Barc Cyfarthfa, wedi'i ysbrydoli gan chwedlau Cymreig a’r grefft o adrodd straeon hudolus.

Dilynwch lwybr geogelcio llawn cliwiau ar thema’r Mabinogion, i chwilio am dai tylwyth teg cudd, a theithio drwy'r coetir i Gadair Stori'r Cawr lle bydd straeon yn dod â chwedlau’n fyw.

Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:

  • Llwybr Geogelcio Mabinogion gydag Arweinydd i'r Teulu
    10:15 – 11:30
    12:00- 13:00
    14:00 – 15:00

  • Straeon ar y Gadair Adrodd Straeon Anferth
    11:00
    12:30
    14:00
     

  • Gwehyddu Helyg Hudolus yn yr Ystafell Ddosbarth yn y Coetir
    10:00 - 15:00
     

  • Cyfle i greu eich llwy gariad eich hun - Pafiliwn Bowlio Cyfarthfa
    10:00–12:00
    13:00–15:00
     

  • Yr Arglwyddes Charlotte Guest
    Gweld yr Arglwyddes Charlotte Guest yn cyfieithu'r Mabinogi.
    10:00–12:00
    13:00–15:00

 

Llwybr Geogelcio

16 Chwefror i 1 Mawrth bydd y geogelciau o amgylch Parc Cyfarthfa wedi cael eu diweddaru i gynnwys thema Mabinogion!

I ddechrau geogelcio ac i ddod o hyd i'r eitemau cudd, gallwch ddysgu mwy am geogelcio a lawrlwytho'r ap yma: www.geocaching.com

 

 

Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×