Ancestral Reverb - Briff yr Artist

September 24 2026

Mae Threads in the Ground yn paratoi eu ceisiadau am gyllid i Gyngor Celfyddydau Lloegr / Cyngor Celfyddydau Cymru / Creative Scotland a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer eu taith Ancestral Reverb genedlaethol. Rydyn nhw eisiau eich gwahodd i fod yn rhan o'n cynlluniau.

A collage of people in an industrial landscape.png

Y Briff gan Threads in the Ground

Ffi: £5,000 (gan gynnwys deunyddiau)
Dyddiadau: Ebrill - Medi 2027 (hyblyg i gyd-fynd ag anghenion partneriaid, y gymuned a'r artist)
Prif Gyswllt: Anneleise Shepherd, Sefydliad Cyfarthfa 
ashepherd@cyfarthfafoundation.wales


Cyflwyniad


Mae Threads in the Ground yn paratoi ein ceisiadau am gyllid i Gyngor Celfyddydau Lloegr / Cyngor Celfyddydau Cymru / Creative Scotland a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein taith Ancestral Reverb genedlaethol. Rydyn ni eisiau eich gwahodd i fod yn rhan o'n cynlluniau. Rydyn ni eisiau eich gwahodd i greu rhywbeth wedi'i ysbrydoli gan y cysyniad “Treftadaeth Garbon" fel rhan o daith genedlaethol Ancestral Reverb yn 2027. Rydyn ni’n cynllunio'r daith o arddangosfeydd a digwyddiadau parti gwrando i ymweld â thua 7 gymuned yn hen feysydd glo y DU. Rydyn ni eisiau creu cyfle ym mhob lleoliad i ymateb i stori Ancestral Reverb ac ychwanegu ati a'n ffordd o lywio "Treftadaeth Garbon".

Rydyn ni eisiau i'r ymateb gael ei greu gyda'r cymunedau ym mhob lleoliad – er mwyn i aelodau o'r gymuned sy'n cymryd rhan gael ymdeimlad dwfn a dilys o berchnogaeth a dylanwad yn y broses greadigol a'r hyn sy'n cael 
ei fynegi gan y gwaith terfynol.


Rydyn ni’n agored iawn i ail-lunio'r briff hwn yn seiliedig ar eich syniadau a'ch adborth chi. Rydyn ni’n ymddiried yn eich arbenigedd ac eisiau eich cefnogi i deimlo mor hyderus a llawn cyffro am y prosiect ag yr ydym ni. Rydyn ni’n cynnig yr un lefel o gydweithredu ac ymddiriedaeth gyda ni ag y byddwch chi’n ei disgwyl gan y gymuned y byddwch chi'n gweithio gyda hi.


Beth yw Ancestral Reverb?


www.ancestralreverb.com

Mae Ancestral Reverb yn archwilio'n Treftadaeth Garbon, trwy sain, geiriau a lluniau Cafodd ei lansio ym mis Hydref 2025.


Cafodd y darn ei greu gan ddefnyddio cerddoriaeth sy'n rhychwantu dros 100 mlynedd, a geiriau aelodau o'r gymuned glo y mae eu hoedran yn amrywio o 5 i 94 oed. Mae'n cynnwys synau wedi’u recordio mewn pwll glo, lluniau a dynnwyd â chamera o Oes Fictoria, a straeon sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae darnau o lo wedi’u
ymwreiddio yn y cofnodion, wedi'u casglu fel darnau mawr oddi ar y traeth ym Mhwll Glo Blackhall.


Mae pob cofnod yn waddol, wedi'i ymddiried i ofal teuluoedd a sefydliadau sy'n cario rhannau o'n Treftadaeth Garbon cyffredin. Rydyn ni’n gobeithio y byddant yn gofalu amdanyn nhw ac yn eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf gyda gobaith a balchder.


Comisiynwyd y prosiect gan Gymdeithas Glowyr Durham, fel rhan o raglen breswyl greadigol Redhills.


Mae Ancestral Reverb yn cael ei gefnogi gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.


Partneriaid


Fel rhan o'r daith genedlaethol, rydyn ni’n gweithio i ddod â'r prosiect hwn i Ferthyr Tudful. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynllunio gyda'r sefydliadau lleol canlynol, i ymgysylltu â'r gymuned, cynnal gweithdai addysgol, hyfforddiant a digwyddiadau.

  • Sefydliad Cyfarthfa
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa
  • Merthyr’s Roots

Rydyn ni’n chwilio am artist a fyddai â diddordeb mewn ymuno â'r prosiect.


Briff yr Artist

 

  • Mae craidd y briff hwn yn ymwneud â chadw lle i'r gymuned leol ymchwilio'n ddwfn i gysyniad "Treftadaeth Garbon"
  • Rydyn ni eisiau i'ch cydweithwyr cymunedol ddod o hyd i'r syniadau sy'n datblygu yn y broses a’u perchnogi nhw.
  • Rydyn ni’n dychmygu mai agwedd heriol fydd gwthio y tu hwnt i hiraeth. Nid yw hwn  yn brosiect sy'n edrych i'r gorffennol yn unig, gan roi llwyfan i naratifau presennol am gymunedau pyllau glo. Mae'n ymwneud ag anrhydeddu ein gorffennol, ein presennol a'n dyfodol cyfunol trwy lens Treftadaeth Garbon.
  • Rydyn ni eisiau i chi greu cydweithrediad dilys gyda'r gymuned leol i archwilio syniadau "Treftadaeth Garbon" sy'n berthnasol i'w lle eu hunain, eu hanesion a'u dyfodol.
  • Rydyn ni eisiau i chi greu gwaith newydd, wedi'i gyd-gynhyrchu gyda'r gymuned leol, i'w gynnwys yn arddangosfa Ancestral Reverb ym Merthyr Tudful.
  • Ar wahân i'r gyllideb, nid oes unrhyw gyfyngiadau na disgwyliadau ar yr hyn y byddwch yn ei gynhyrchu ar gyfer yr arddangosfa.
  • Gallai fod mai gwaith wedi’i greu yn uniongyrchol gan y gymuned sy’n cael ei arddangos. Neu bod y grŵp yn ymddiried mewn darn o waith yr ydych chi’n ei greu fel artist sy’n eu cynrychioli, a’u bod yn teimlo perchnogaeth drosto.
     

Mwy am y gymuned

  • Byddwch yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, pobl ifanc a/neu ysgolion ym Merthyr Tudful.
  • Mae haelioni ac ymdeimlad cryf o gymuned pobl Merthyr Tudful, yn rhan allweddol o hanes y sir ac yn rhan annatod o'r prosiect hwn. Bu cymuned Merthyr Tudful yn rhan allweddol wrth lunio'r byd modern.
  • Mae Merthyr Tudful yn dref sydd wedi dod yn rhan o hanes Cymru a'r byd - lle o newid technolegol, diwydiannol, gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol arloesol. Yn ei anterth, roedd gwaith haearn Merthyr Tudful yn cynhyrchu mwy o haearn nag unman arall yn y byd. Mae ei themâu a'i straeon yn berthnasol i’r presennol ac mae ynddynt wersi ar gyfer y dyfodol.
  • Byddwch chi’n cael eich cefnogi gan Anneleise Shepherd, Rheolwr Datblygu Cymunedol Sefydliad Cyfarthfa; Charlotte Barry, Swyddog Addysg a Dehongli yn Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa a Ben Evans, Rheolwr Prosiect yn Merthyr's Roots. Mae gan y sefydliadau hyn berthynas bresennol â phobl ledled Merthyr Tudful i'w cefnogi gydag ymgysylltu, digwyddiadau ac allgymorth.

Y Broses Benodi


Rydyn ni’n gobeithio eich bod yn llawn cyffro am botensial y prosiect, fel yr ydym ni, ac y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd - ond rydyn ni eisiau i'r gymuned y byddwch chi'n gweithio gyda hi fod â pherchnogaeth drosto bob amser, felly byddwn yn eich comisiynu chi yn amodol ar gefnogaeth cynrychiolwyr y gymuned leol.

Rydyn ni felly yn gofyn i chi wneud y canlynol:

Paratoi Datganiad o Ddiddordeb. Rydyn ni’n dychmygu dogfen 1 - 2 dudalen neu fideo byr, ond rydyn ni eisiau bod yn hyblyg o ran sut yr hoffech chi wneud hyn. 


Rydyn ni’n dychmygu y bydd y Datganiad o Ddiddordeb yn cynnwys:

  • Cyflwyno eich hun
  • Cyflwyno eich ymarfer
  • Yr hyn sy'n eich denu chi i wneud yr ymarfer hwn
  • Sut yr ydych yn dychmygu y byddwch yn gweithio gyda'r gymuned
  • Dod i gyfweliad gyda phanel bach gan gynnwys y partneriaid a Threads in the Ground.
  • Byddwn yn cyflwyno’n ceisiadau am gyllid ym mis Hydref 2026. Nid ydym yn disgwyl i chi wneud unrhyw waith newydd i gefnogi'r cais hwn, ond byddwn yn gofyn am gopi a phortffolio presennol i gefnogi'r broses ymgeisio.

Datganiad o Ddiddordeb i'w anfon at Anneleise Shepherd erbyn 30 Medi 2026.
Cyfweliadau panel fis Hydref 2026

 

 

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×