Dilynwch y cliwiau. Dewch o hyd i Gadair y Cawr. Gwrandewch ar y chwedl yn dod yn fyw.
Dydd Iau 19 Chwefror 2026 - Parc Cyfarthfa, 10:00yb - 3:00yp
Ymunwch â ni dros hanner tymor ar antur rhad ac am ddim i'r teulu drwy Barc Cyfarthfa, wedi'i ysbrydoli gan chwedlau Cymreig a’r grefft o adrodd straeon hudolus.
Dilynwch lwybr geogelcio llawn cliwiau ar thema’r Mabinogion, i chwilio am dai tylwyth teg cudd, a theithio drwy'r coetir i Gadair Stori'r Cawr lle bydd straeon yn dod â chwedlau’n fyw.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:
-
Llwybr Geogelcio Mabinogion gydag Arweinydd i'r Teulu
10:15 – 11:30
12:00- 13:00
14:00 – 15:00 -
Straeon ar y Gadair Adrodd Straeon Anferth
11:00
12:30
14:00
-
Gwehyddu Helyg Hudolus yn yr Ystafell Ddosbarth yn y Coetir
10:00 - 15:00
-
Cyfle i greu eich llwy gariad eich hun - Pafiliwn Bowlio Cyfarthfa
10:00–12:00
13:00–15:00
-
Yr Arglwyddes Charlotte Guest
Gweld yr Arglwyddes Charlotte Guest yn cyfieithu'r Mabinogi.
10:00–12:00
13:00–15:00
Llwybr Geogelcio
O 16 Chwefror i 1 Mawrth bydd y geogelciau o amgylch Parc Cyfarthfa wedi cael eu diweddaru i gynnwys thema Mabinogion!
I ddechrau geogelcio ac i ddod o hyd i'r eitemau cudd, gallwch ddysgu mwy am geogelcio a lawrlwytho'r ap yma: www.geocaching.com
Ariennir gan Lywodraeth Cymru.