Mae cyn-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a fu hefyd yn golygu papur newydd The Times, ymhlith wyth aelod o fwrdd newydd a benodwyd i Sefydliad Cyfarthfa, sef y sefydliad a grewyd i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa yn gyrchfan bwysig i dwristiaid.

Mae Syr Simon Jenkins, yr oedd ei dad o Ddowlais, yn awdur a newyddiadurwr blaenllaw, sydd hefyd wedi gwasanaethu fel Golygydd yr Evening Standard. Mae hefyd yn gyn-Ddirprwy Gadeirydd English Heritage ac ar hyn o bryd yn golofnydd i The Guardian.
Ymysg ei lyfrau niferus am wleidyddiaeth a hanes, mae cyfrol ar eglwysi, tai a chestyll Cymru.
Wrth gyhoeddi aelodaeth lawn Bwrdd y Sefydliad, dywedodd ei Gadeirydd, Geraint Talfan Davies: “Rwy’n falch iawn fod Syr Simon wedi bod yn barod i gyfrannu ei brofiad sylweddol at y prosiect gweddnewidiol hwn. Mae’n dod â gwybodaeth a phrofiad heb ei ail i’r gwaith, gan danlinellu pa mor bwysig yw’r prosiect hwn i Gymru a’r DU.”
Dywedodd Syr Simon: “Rwy’n wirioneddol falch o gymryd rhan yn yr adfywiad yn y diddordeb yn hanes cymoedd de Cymru. Roedd Merthyr, yn arbennig, yn grud i chwyldro diwydiannol Cymru. Mae angen adrodd ei stori yn ei holl agweddau.”
Cafodd uwchgynllun ar gyfer datblygu Cyfarthfa ei gyhoeddi y llynedd. Cafodd ei baratoi gan dîm o dan arweiniad Ian Ritchie Architects, sy’n enwog yn rhyngwladol, ac yn cynnwys arbenigwyr tirlun blaenllaw, Gustaffson Porter and Bowman, sydd wedi tirlunio 40 erw o amgylch Tŵr Eiffel ym Mharis yn ddiweddar.
Roedd eu cynllun 20 mlynedd yn rhagweld amgueddfa ac oriel gelf o safon ryngwladol, mewn parc cyhoeddus 100 hectar a fyddai’n gallu denu bron i hanner miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Roedd hefyd yn rhoi lle canolog i adfywio cymdeithasol ac ymgysylltu â’r gymuned.
“Mae’n dweud cyfrolau am y cynllun dychmygus hwn fod cynifer o bobl sy’n arweinwyr yn eu maes eisiau chwarae rhan yn y gwaith o’i wireddu. Dylai ansawdd y bwrdd hwn roi hyder i gyllidwyr posibl ac i’r llywodraeth,” meddai Talfan Davies.
Fe wnaeth Cyngor Merthyr Tudful ariannu ymarferiad yr uwchgynllun, ac ar ôl ei gyhoeddi mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £1.2m o gyllid datblygu ar gyfer y prosiect.
Ymysg yr aelodau newydd eraill mae:
Hanif Kara, cyd-sylfaenydd AKT II, un o bractisau peirianneg sifil a strwythurol sydd wedi ennill mwy na 350 o wobrau dylunio, gan gynnwys tair Gwobr Stirling.
Ewan Jones, partner gyda’r penseiri Grimshaw, sef y practis a ddyluniodd Brosiect Eden yng Nghernyw. Mae hefyd yn gyn-aelod o fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru.
Geoff Hunt, Prif Swyddog Gweithredu Arup ar draws y DU, India, y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae’n byw ym Mhorthcawl ac mae’n gyn-Gadeirydd Groundworks Cymru.
Sara Turnbull, amgylcheddwr siartredig, entrepreneur cymdeithasol ac arbenigwr ar gynaliadwyedd. Bu’n arwain y gwaith o ddatblygu polisïau cynaliadwyedd ar gyfer y practis pensaernïol byd-enwog Foster + Partners. Mae hi’n byw yn Abertawe ac yn aelod o fwrdd Grŵp Tai Coastal yn Abertawe, sydd â 6,000 o gartrefi dan reolaeth yn ne Cymru.
Dr Carol Bell, sydd ar hyn o bryd yn Is-lywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac yn Is-gadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd yn camu i lawr o’r ddwy swydd y flwyddyn nesaf. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd Banc Datblygu Cymru, ac yn un o sylfaenwyr Chapter Zero, sy’n rhan o Fenter Llywodraethu Hinsawdd Fforwm Economaidd y Byd.
Marion Loeffler, hanesydd a aned yn yr Almaen ac arbenigwr ar hanes diwydiannol Cymru. Daw o Berlin a bu’n darlithio ym Mhrifysgol Humboldt cyn dod i Gymru lle bu’n gweithio i ddechrau fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi bellach yn Ddarllenydd mewn hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac wedi cyflwyno rhaglenni hanes ar gyfer S4C yn ogystal ag ar gyfer ORB yn yr Almaen.
Robert Rummey, pensaer tirlunio sy’n arbenigo ar ail-bwrpasu asedau hanesyddol er mwyn adfywio, twristiaeth a budd addysgol ac amgylcheddol. Mae’r practis wrthi’n defnyddio’r dull hwn gyda thri chastell yn y DU ac un yn yr Eidal, yn ogystal ag ym Mharc Bletchley, y ganolfan dadgodio adeg rhyfel. Mae ei bractis hefyd wedi dylunio a gweithredu parc 120 hectar yng Nglofa Betteshanger yng Nghaint.
Maent yn ymuno ag aelodau presennol y bwrdd –
Cadeirydd, Geraint Talfan Davies, cyn-Reolwr BBC Cymru a chyn-Gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Sefydliad Materion Cymreig.
Dirprwy Gadeirydd, Rowland Davies, cyfreithiwr ac arbenigwr eiddo, a chyn-bartner eiddo masnachol gyda Geldards LLP. Ef arweiniodd y tîm a gasglodd dir ar gyfer Stadiwm y Mileniwm. Mae hefyd yn Is-gadeirydd Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru.
Lisa Mytton, Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful - mae hi wedi gweithio ers dros 20 mlynedd ym maes addysg ôl-16, gan ddelio’n bennaf â phrentisiaethau, ac yn fwy diweddar fel Arolygydd Cymheiriaid gydag Estyn. Mae hi hefyd yn llywodraethwr Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa.
Geraint Thomas, Dirprwy Arweinydd Cyngor Merthyr Tudful ac aelod Cabinet dros Adfywio. Mae’n Gynghorydd Annibynnol dros ward Cyfarthfa ers 2017, a chafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a Choleg Merthyr.
Helen Protheroe, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain, lle mae’n goruchwylio gweithgarwch cysylltiadau allanol ac elusennol byd-eang y coleg. Ganed Helen ym Merthyr Tudful, a chyn hynny bu’n gweithio i’r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol, Canolfan Mileniwm Cymru a’r Tŷ Opera Brenhinol.