Mae'r gwanwyn yn bendant wedi cyrraedd yma yng Nghyfarthfa. Yn ystod yr wythnosau diwethaf - gyda diwrnodau hirach, gwyliau'r Pasg, a rhywfaint o dywydd sych - mae wedi bod yn wych gwylio wrth i'r parc ddod yn ôl yn fyw ac wrth i’r gymuned ddod heibio i fwynhau'r safle.
Roedd hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer ein Digwyddiad Pasg diweddar a welodd ymhell dros 1000 o bobl yn ymuno â ni a sefydliadau eraill y parc ar gyfer diwrnod llawn hwyl o weithgareddau gan gynnwys addurno wyau, adrodd straeon gyda thylwythen deg y coetir, cwisiau daeareg a llwybrau’r goedwig. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, rydyn ni hefyd yn arbennig o ddiolchgar am waith caled ein Hadran Parciau yng Nghyngor Merthyr yn cadw golwg prydferth yr ardal, a'r glaswellt wedi'i docio'n daclus yn barod ar gyfer llwyth o bicnics yn y misoedd i ddod.
Yn unol ag ysbryd adfywio, rydyn ni hefyd wedi bod yn dadorchuddio rhai arwyddion brandio newydd ar draws y parc. Wedi'u lleoli mewn mannau allweddol, dyma gam cyntaf rhaglen fwy i uwchraddio'r arwyddion, dynodi llwybr a dehongli yn y parc, gan ei gwneud hi'n haws i ymwelwyr ddod o hyd i atyniadau a chyfleusterau allweddol, gwella diogelwch, a hefyd rhannu gwybodaeth am hanes cyfoethog Cyfarthfa. Wedi'i ariannu drwy raglen Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, mae'r arwyddion wedi'u creu mewn haearn a deunyddiau cerrig pennwn, sy'n adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful ac adeilad y castell.
Ar hyn o bryd, wrth i waith cadwraeth ar y castell fynd rhagddo, rydyn ni wedi bod yn parhau i weithio ar ddatblygu dyfodol hirdymor yr adeilad. Ym mis Chwefror, cyflwynodd Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gais ar y cyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac maen nhw ar hyn o bryd yn aros am adborth. Os bydd yn llwyddiannus, gallai weld rhannau hynaf yr adeilad (lle mae'r amgueddfa a'r oriel bresennol) yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd i ddod fel canolfan ddiwylliannol well gyda mannau arddangos estynedig, cyfleusterau cyhoeddus wedi'u huwchraddio, mannau addysg pwrpasol ac ystafelloedd i’w llogi ar gyfer digwyddiadau a dathliadau. Mae llawer o waith wedi mynd i mewn i gais manwl iawn a byddaf yn rhannu rhagor o wybodaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar sut mae hyn yn mynd yn ei flaen.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn parhau i ddathlu effaith ymgyrch deucanmlwyddiant Cyfarthfa200, sy'n cynnwys cynnydd o 75% yn nifer yr ymwelwyr â Chastell Cyfarthfa yn 2025, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ar ben hynny, mae ymgyrch Cyfarthfa200 wedi cyrraedd y rhestr fer yng Nghategori Marchnata a Chyfathrebu' y Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth mawr eu bri. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu hadnabod fel 'Oscars byd yr amgueddfeydd', ac maen nhw’n dathlu'r atyniadau diwylliannol a threftadaeth gorau i ymwelwyr yn fyd-eang. Mae Cyfarthfa yn cael ei gydnabod ochr yn ochr â rhai sefydliadau mawreddog iawn yn ein categori gan gynnwys yr Amgueddfa Hanes Natur, Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol a Chanolfan Southbank, gan brofi potensial enfawr y safle fel cyrchfan ddiwylliannol o arwyddocâd cenedlaethol. Byddwn yn y seremoni gwobrwyo yn Llundain ar 13 Mai yn cynrychioli’n holl randdeiliaid, partneriaid a'n cymuned ehangach, hebddyn nhw, ni fyddai llwyddiant Cyfarthfa200 wedi bod yn bosibl.
Cofiwch, wrth i’r gwaith adeiladu allanol fynd rhagddo, mae Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa dal ar agor ar gyfer busnes. Sicrhewch eich bod yn dod i weld yr uwchraddio mewnol diweddar a hefyd i fwynhau'r arddangosfa bresennol 'Adnabod Eich Lle' (sy'n cael ei chynnal tan 13 Mehefin) sy'n datgelu straeon heb eu hadrodd am fenywod Merthyr ac sy'n cynnwys comisiynau newydd trawiadol gan yr artistiaid Beth Leahy ac Eleanor Whiteman.