Cynllun uchelgeisiol i drawsnewid Castell Cyfarthfa a’r parc i mewn i gyrchfan ddiwylliannol a threftadaeth sydd yn adrodd yr hanes arbenning.
Am bron canrif, Merthyr Tudful oedd canolbwynt y byd cynhyrchu haearn. Mi wnaeth yr ardal sefydlu ei hun fel un o newid ddiffiniol. Ar faes Castell
Cyfarthfa, cyn-gartref i’r teulu Crawshay a’u llinach o feistrau haearn, mae yna gynllun i adrodd y stori mewn ffordd newydd, pwerus.
Yn y llyfr, mae Geraint Talfan Davies yn trafod pam mae trawsnewidiad Castell Cyfarthfa a’i parc o 160 o erwau yn bwysig er mwyn creu sefydliad
genedlaethol newydd ac mae’n esbonio pam mae themau pwerus y stori yn berthnasol heddiw ac yn cynnwys gwersi am y dyfodol – gwersi ynglyn a’r amgylchedd, creadigrwydd ac adfywiad cymdeithasol.
Yn berffaith am unrhywun sydd â diddordeb yn hanes a hanes Cymru’n benodol, mae’r llyfr wedi ei ysgrifennu mewn ffordd gwahoddus, yn llawn
gwybodaeth, ac yn dod â hanes yr ardal i fyw. Bydd darllewnwyr yn dysgu am y bobl, y diwydiant a’r celf a wnaeth ddiffinio’r dref a’r genedl – yn ogystal â’r ddylanwad byd-eang. Mae’r llyfr yn ein dangos gweledigaeth uchelgeisiol Sefydliad Cyfarthfa, un a fydd yn adrodd stori amgylchedd, diwydiant a threftadaeth Merthyr Tudful mewn ffyrdd deniadol, newydd am genedlaethoedd y dyfodol.