Calan Gaeaf yma – byddwch yn barod am antur!
Dewch draw i Barc Cyfarthfa, casglwch fap o’r parc a thaflen gliwiau Llwybr Creaduriaid Arswydus Cyfarthfa gan Sefydliad Cyfarthfa ac yna bant â chi ar antur.
Crwydrwch drwy'r coetir dirgel, darganfod cliwiau cudd, dilyn llwybrau iasol a gweld beth allwch chi ddod o hyd iddo ar hyd y ffordd. Dydych chi ddim yn gwybod pwy y byddwch chi’n eu gweld... gwrachod, angenfilod, ysbrydion a digon o anturiaethwyr Calan Gaeaf bach eraill!
Ac mae cymaint o gwmpas y parc i’w wneud:
- Straeon Brawychus ar y Gadair Adrodd Straeon Enfawr
- Llwybrau Arswydus Cyfarthfa drwy'r goedwig
- Addurno Mwgwd Bwci-bo
- Creu eich Creadur Mwd eich hun yn y coetir
- Creu ysgub gwrach
- Anturiaethau Geogelcio
- Pos Difodiant "Amser Marw" yn y Tai Gwydr
- Trên Ysbrydion Cyfarthfa
GWISGWCH WISG FFANSI! Dewch fel gwrach, dewin, anghenfil, ysbryd, tylwyth teg - neu dyfeisiwch eich creadur arswydus eich hun!
Casglwch eich angenfilod bach, gwisgwch wisg ffansi, gafaelwch yn eich map a dewch ar antur!
Parc Cyfarthfa, Dydd Mawrth 27 Hydref, 10:30am–4:00pm
Nid oes angen archebu – dewch draw ac ymunwch yn yr antur!
Mae tâl bach am y Trên Ysbrydion, a mynediad i oedolion ar gyfer gweithgaredd plant am ddim yn yr Amgueddfa.