Llwybr Creaduriaid Arswydus ym Mharc Cyfarthfa

October 8 2026

Calan Gaeaf yma – byddwch yn barod am antur!

Dewch draw i Barc Cyfarthfa, casglwch fap o’r parc a thaflen gliwiau Llwybr Creaduriaid Arswydus Cyfarthfa gan Sefydliad Cyfarthfa ac yna bant â chi ar antur.

Creepy Creatures at Cyfarthfa  (1600 x 1060 px) (1).jpg

Crwydrwch drwy'r coetir dirgel, darganfod cliwiau cudd, dilyn llwybrau iasol a gweld beth allwch chi ddod o hyd iddo ar hyd y ffordd. Dydych chi ddim yn gwybod pwy y byddwch chi’n eu gweld... gwrachod, angenfilod, ysbrydion a digon o anturiaethwyr Calan Gaeaf bach eraill!

Ac mae cymaint o gwmpas y parc i’w wneud:

  • Straeon Brawychus ar y Gadair Adrodd Straeon Enfawr
  • Llwybrau Arswydus Cyfarthfa drwy'r goedwig
  • Addurno Mwgwd Bwci-bo
  • Creu eich Creadur Mwd eich hun yn y coetir
  • Creu ysgub gwrach
  • Anturiaethau Geogelcio
  • Pos Difodiant "Amser Marw" yn y Tai Gwydr
  • Trên Ysbrydion Cyfarthfa

GWISGWCH WISG FFANSI! Dewch fel gwrach, dewin, anghenfil, ysbryd, tylwyth teg - neu dyfeisiwch eich creadur arswydus eich hun!

Casglwch eich angenfilod bach, gwisgwch wisg ffansi, gafaelwch yn eich map a dewch ar antur!

Parc Cyfarthfa, Dydd Mawrth 27 Hydref, 10:30am–4:00pm

Nid oes angen archebu – dewch draw ac ymunwch yn yr antur!

Mae tâl bach am y Trên Ysbrydion, a mynediad i oedolion ar gyfer gweithgaredd plant am ddim yn yr Amgueddfa.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Gyfarthfa.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×